Rhan o Grŵp WJ
Mae Nolan Roadmarking yn rhan o’r WJ Group, sy’n arwain y diwydiant marciau ffordd a dulliau diogelwch wynebau ar briffyrdd, oddi ar briffyrdd a diwydiannau arbenigol, gan ganiatáu i ni wneud y mwyaf o’n perthnasoedd cenedlaethol, ein hadnoddau a’n cymorth tra’n cynnig arbenigedd ac ymateb yn lleol.
Gweithio gyda ni >WJ ydyn ni.
Mae WJ Group yn gweithredu gyda gonestrwydd a byth yn gwyro oddi wrth ei bedwar gwerth craidd: diogelwch, cyflenwi, arloesi a chymuned. Gan weithredu ers 35 o flynyddoedd, mae gan WJ Group dîm sylweddol o arbenigwyr i wasanaethu cymunedau ar lefel ryngwladol.
Drwy gofleidio’r weledigaeth i Greu Teithiau Diogel, Cynaliadwy i Bawb, mae’r WJ Group wedi datblygu’n gwmni sydd wedi ennill gwobrau a’i gydnabod ar draws y diwydiant am gynnig gwasanaeth dibynadwy a thryloyw yn y ffordd fwyaf effeithlon a chynaliadwy.
![]()
Yn greiddiol i ni, cawn ein hysgogi gan yr un gwerthoedd o ddiogelwch, cyflawni, arloesi a chymuned ar draws ein grŵp. Yr egwyddorion hyn yw sylfaen ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth gwych ac atebion arloesol i’n cwsmeriaid ledled y DU, Ewrop, Gogledd America a phedwar ban byd.
Wayne Johnston, Prif Swyddog Gweithredol
WJ Group