Gweithio gyda Nolan Roadmarking
Siaradwch ag arbenigwr >Amdanom ni
Mae Nolan Roadmarking, a sefydlwyd dros dri degawd yn ôl, yn enwog am ddarparu gwasanaeth cwsmer eithriadol i awdurdodau lleol a busnesau ledled Cymru. Gan ddarparu ystod eang o wasanaethau ar gyfer diwydiannau priffyrdd ac oddi ar y priffyrdd, rydyn ni wedi datblygu enw da o ran marciau ffordd, atgyweirio craciau ac uniadau, gosod wyneb ffrithiant uchel a gosod stydiau ar y ffordd. Mae ein tîm ymroddedig a medrus yn cymryd yr amser i ddeall hyd a lled pob prosiect, gan gynnig dulliau ymarferol, pwrpasol a gwasanaeth dibynadwy ac effeithlon.
Yn 2022, fe wnaethon ni ymuno â’r WJ Group, gan gyfuno ein harbenigedd lleol gydag adnoddau a chyrhaeddiad contractiwr marciau ffordd mwyaf y DU. Er gwaethaf yr ehangu sylweddol hwn, mae ein hymrwymiad i gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i gymunedau Cymru yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith. Gydag achrediadau a chymwysterau sy’n arwain y diwydiant, rydyn ni’n parhau i fod y dewis dibynadwy ar gyfer dulliau effeithiol ar y ffyrdd.
Lleoliad
Yn gweithredu o’n depo mewn safle strategol ym Mhort Talbot, mae Nolan Roadmarking yn cwmpasu Cymru gyfan. Rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr mewn cyflogi gweithwyr lleol sy’n deall anghenion a nodweddion unigryw y rhanbarthau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Yn ogystal â chefnogi ein cymunedau Cymreig lleol, rydyn ni mewn lle unigryw, fel rhan o’r WJ Group ehangach, i allu defnyddio adnoddau cenedlaethol i ymgymryd ag unrhyw brosiect, waeth beth fo’i faint.
