Gwella Diogelwch gyda Stwdiau Ffordd
Siaradwch ag arbenigwr >Gwella diogelwch a gwelededd i ddefnyddwyr y ffordd fawr gyda stydiau ar y ffordd.
Drwy osod stydiau ar y ffyrdd, byddwch yn darparu llwybrau sydd wedi’u marcio’n glir i holl ddefnyddwyr ffyrdd, gan gynnwys beicwyr a cherddwyr, gan helpu i wella gwelededd a diogelwch.
Mae Nolan Roadmarking yn gosod amrywiaeth eang o stydiau ar y ffyrdd, gyda phob un yn cynnig ôl-adlewyrchiad gwell. Ochr yn ochr â’r manteision diogelwch, mae stydiau hefyd yn helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol oherwydd maen nhw’n gallu lliniaru’r angen am oleuadau ychwanegol—goleuadau stryd, er enghraifft. Mae stydiau ar y ffyrdd yn gynnyrch sy’n perfformio’n uchel a phrofwyd eu bod yn lleihau damweiniau, yn enwedig gyda’r nos.
Beth i’w ystyried
- Wrth ddewis styden ar y ffordd, mae’n bwysig ystyried y math o brosiect rydych chi’n gweithio arno. Er enghraifft, drwy waith ar y ffordd, bydd angen stydiau dros dro ar systemau rheoli traffig er mwyn creu llwybrau newydd i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n amlwg yn weladwy. Ar gyfer prosiectau cynnal a chadw a gwella ffyrdd, mae amrywiaeth o stydiau sy’n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd a dibenion. Maen nhw’n gallu gwrthsefyll crafiadau, yn wydn, ac mae ganddyn nhw lefel uchel o ôl-adlewyrchiad a fydd yn cynghori ac yn rhybuddio defnyddwyr ffyrdd am newidiadau yn niwyg y ffordd, gan wella eu diogelwch. Yn ogystal â’r stydiau hyn, maen nhw ar gael mewn gwyn, gwyrdd, coch, oren a glas at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau mewn gwahanol rannau o’r rhwydwaith ffyrdd.
Oriel
Allux yw ein styden adlewyrchol parhaol, gyda lens deuol, ac mae’r Allux yn cynnig lefel uchel o ôl-adlewyrchiad a marciau ffordd, sy’n addas ar gyfer wyneb unrhyw ffordd. Ychydig iawn o beirianneg sydd ei angen i’w osod hefyd, dim ond twll 32mm sydd ei angen ar gyfer ei siafft integredig.
Mae gennym brofiad sylweddol o osod beth sy’n cael eu galw fel arfer yn ‘llygad cath’. Mae’r Mae’r rhain yn wydn iawn ac yn ffordd effeithiol o farcio llwybrau traffig i wella diogelwch y rhai sy’n defnyddio’r ffordd fawr.
Stydiau solar yw un o’n cynnyrch sy’n perfformio orau. Yn glyfar, yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Dim ond ychydig oriau o olau dydd sydd ei angen i wefru pob styden, mae gwelededd gyrwyr yn gwella ym mhob tywydd, gan gynyddu amser ymateb i newidiadau ar y ffordd o tua 3 eiliad i 30.
Mae stydiau ffordd 301 yn gynnyrch hynod o wydn, sy’n cael eu gweithgynhyrchu drwy ddefnyddio haearn bwrw wrth osod styden hynod o adlewyrchol o fewn y cast. Mae hyn yn rhoi gwytnwch eithriadol tra’n cynnal lefelau uchel o ddiogelwch y rhai sy’n defnyddio’r ffordd fawr.
Mae ein stydiau sy’n cael eu gosod ar wyneb y ffordd yn stydiau adlewyrchol, parhaol, sy’n perfformio’n uchel, ac wedi’u gosod ar yr wyneb. Mae’r lens adlewyrchol, sydd wedi’i warchod gan got o ddeunydd atal crafiadau, yn cynnig adlewyrchiad a gwelededd gwych ym mhob tywydd.
Mae stydiau croesfan i gerddwyr ar gael mewn proffil siâp cylch neu sgwâr ac yn cael eu gosod i sicrhau marciau diogel mewn mannau croesi sydd wedi’u rheoli neu heb eu rheoli i gerddwyr.
Caiff ein stydiau Contramark dros dro eu defnyddio’n helaeth gyda phrosiectau rheoli traffig. Gyda chorff melyn llachar, fflwroleuol, maen nhw ar gael fel rhai sy’n glynu eu hunain neu mewn toddiad poeth ar gyfer gwelededd effeithiol ddydd a nos.