Mae Nolan Roadmarking yn gweithredu ar draws Cymru, gan ddarparu marciau ffordd, atgyweirio wynebau ac ailweadu ar gyfer cymunedau a busnesau yng Nghymru.
Mae gan Nolan Roadmarking, a sefydlwyd yn 1991, dros dri degawd o brofiad wrth ddarparu diogelwch ar y priffyrdd ac dulliau cynnal a chadw i gymunedau lleol. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’r diwydiannau priffyrdd ac oddi ar y priffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys gosod wyneb ffrithiant uchel, trin wynebau, marciau ffordd a gosod stydiau ar y ffyrdd. Mae cynnig gwasanaeth effeithlon, di-drafferth yn ganolog i’n busnes. Mae ein henw da yn seiliedig ar ein ffordd gyfeillgar a dibynadwy at bob prosiect.
Yn 2022, ar ôl profi twf sylweddol, daethom yn rhan o’r WJ Group. Mae’r bartneriaeth hon mewn lle unigryw i fanteisio ar gysylltiadau cenedlaethol, adnoddau cadarn a rhwydwaith cymorth contractwr marciau ffordd mwyaf y DU. Er gwaetha’r twf, rydyn ni’n cadw ein harbenigedd a’n hymrwymiad lleol at ansawdd ar gyfer awdurdodau lleol, busnesau a chontractwyr priffyrdd yng Nghymru.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector marciau ffordd, gall ein timau gynnig cyngor am yr ateb perffaith i’ch prosiect a chyflawni i’r safon uchaf.
Mae Nolan Roadmarking yn cynnig amrywiaeth o driniaethau wyneb cost-effeithiol fel ailweadu, gosod wyneb ffrithiant uchel, selio craciau ac atgyweirio uniadau i wella hirhoedledd rhwydwaith ffyrdd, atal sgidio a diogelwch.
Nid yn unig y caiff marciau llinell eu defnyddio ar briffyrdd ond ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wella diogelwch, hygyrchedd ac argraffiadau cyntaf.