Atebion Marcio Ffordd
Atebion effeithlon a dibynadwy ar gyfer marciau ffordd o fewn y diwydiant priffyrdd.
Siaradwch ag arbenigwr >Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o farciau ffordd dros dro a pharhaol ar draws rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. P’un a oes angen i chi wella diogelwch ardaloedd penodol o’ch rhwydwaith ffyrdd, amlinellu ffyrdd newydd o baratoi ar gyfer unrhyw waith sydd ar y gweill ar y ffordd neu ailosod marciau ffordd fel rhan o’ch amserlen cynnal a chadw, gallwn eich cefnogi chi.
Gyda’n lle unigryw fel rhan o grŵp diogelwch priffyrdd a marciau ffordd mwyaf y DU, WJ Group, gallwn ddefnyddio adnoddau sylweddol tra’n cynnig arbenigedd lleol, beth bynnag bo’r prosiect neu’ch gofynion.
Beth gallwch ei ddisgwyl
- Darpariaeth eithriadol, waeth beth fo maint y prosiect
- Arbenigedd technegol sy’n arwain y farchnad
- Dulliau carbon isel, uchel eu perfformiad, sydd wedi ennill gwobrau
- Dull sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich prosiect
Oriel
Marciau Parhaol
Mae marciau parhaol yn ddull effeithiol, uchel ei berfformiad a fydd yn sicrhau bod eich rhwydweithiau ffyrdd wedi’u hamlinellu’n glir i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd drwy gydol y dydd a’r nos.
Mae ein dulliau yn siŵr o sicrhau gwelededd a gwytnwch gwell, gan sicrhau bod pawb sy’n defnyddio cerbydau a’r rheini ar lonydd teithio llesol wastad yn cael eu cadw’n ddiogel.
Dulliau Uchel eu Perfformiad >
Marciau Dros Dro
Mae marciau dros dro yn ffordd effeithlon o helpu i gydlynu a rheoli gwaith ar y ffyrdd a chynlluniau rheoli traffig. Mae llinellau traffig newydd, gwrthlifoedd, neu’r angen am lonydd cul yn aml yn hollbwysig i gyflawni cynlluniau uwchraddio ffyrdd mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.
Yn Nolan Roadmarking, rydyn ni’n deall yr heriau a ddaw yn sgil cynlluniau o’r fath. Bydd ein harbenigwyr wastad yn cymryd yr amser i ddeall naws a chymhlethdod pob prosiect, gan gynnig dull sy’n tarfu cyn lleied â phosib ar y gwaith cyfagos a’r cymunedau ehangach.
Tarfu cyn lleied â phosib >
Dileu marciau
P’un a oes angen dileu neu adnewyddu eich marciau presennol, mae gennym yr arbenigedd i weithredu’r broses yn ddiogel ac yn gyflym. Os ydych chi’n edrych ar newid diwyg eich maes parcio, neu efallai bod angen i chi wneud newidiadau sylweddol i rwydwaith ffordd allweddol, cysylltwch ag un o aelodau ein tîm.
Dileu marciau ffordd heddiw >