Cyrtiau Chwaraeon Dychmygol a Marciau Maes Chwarae
Ychwanegwch ychydig o ddychymyg i’ch cyrtiau chwaraeon a’ch meysydd chwarae.
Siaradwch ag arbenigwr >Mae Nolan Roadmarking yn falch o fod wedi cydweithio gydag amrywiaeth o ysgolion, meithrinfeydd, colegau a phrifysgolion, i ymgymryd â’r dasg gyffrous o adfywio ac ailfywiogi eu hardaloedd hamdden.
O ran cyrtiau chwaraeon, rydyn ni’n cydnabod bod eglurder a manylder y marciau yn hollbwysig, yn enwedig o ystyried y llu o weithgareddau sy’n cael eu cynnal ar un cwrt. Boed yn bêl-rwyd, pêl-fasged, tennis, badminton, neu fwy, gallwn ddarparu ar eich cyfer. Ar gyfer eich ardaloedd lle caiff sawl gêm wahanol eu chwarae, rydyn ni’n addo gosod marciau sydd nid yn unig yn fanwl gywir ac yn hawdd gwahaniaethu rhyngddynt, ond sydd hefyd yn lliwgar ac yn ddeniadol i ddenu diddordeb y myfyrwyr.
Meysydd chwarae yw ein cynfas i ryddhau creadigrwydd. Boed yn lliw pwrpasol, siâp unigryw, neu hyd yn oed graffeg wedi’i addasu, mae gennym y sgil a’r dychymyg i greu dull sydd nid yn unig yn cynnig gofod diogel ond un sydd hefyd yn ddeniadol i blant ifanc. Credwn fod meysydd chwarae mwy disglair a mwy arloesol yn cyfoethogi’r profiad dysgu a chwarae.
Gall ein holl gynlluniau gael eu rendro mewn amrywiaeth eang o liwiau llachar, cynlluniau apelgar a phatrymau egnïol i swyno eich plant ac i ddal dychymyg beth bynnag bo’r gweithgaredd. O hyrwyddo sgiliau cymdeithasol drwy gemau grŵp apelgar yn ystod amser egwyl, creu ardal benodedig ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff, neu hyd yn oed cyflwyno gwersi Mathemateg neu Wyddoniaeth arloesol yn yr awyr agored gyda gridiau rhifau neu ddiagramau, gallwn wneud y cyfan.
Cynlluniau creadigol pwrpasol, yn addas ar gyfer eich gofod
Gallwn gynnig marciau pwrpasol ar gyfer meysydd chwarae i ysgolion cynradd ac uwchradd neu unrhyw gyfleuster arall, beth bynnag bo’r thema neu liw. Gallwn hyd yn oed gynnig y cyfle unigryw i blant weld eu cynlluniau eu hunain yn dod yn fyw ar eu meysydd chwarae, i’w hatgoffa drwy’r amser o’u creadigrwydd.
Mae gofod awyr agored pob ysgol yn wahanol, yn amrywio’n fawr o ran maint, cynllun a siâp. I sicrhau ein bod yn darparu canlyniad sy’n addas i’ch anghenion penodol chi, byddwn wastad yn hapus i deithio i’ch safle i gynnal arolwg o’r safle cyn dechrau unrhyw waith. Felly, gadewch i Nolan Roadmarking drawsnewid eich ardaloedd awyr agored yn fannau bywiog ag apelgar i ddysgu ac i chwarae.
Proses 3 Cam
Siaradwch ag arbenigwr
Siaradwch ag un o’n tîm heddiw i ddarganfod pa wasanaethau a chynhyrchion sy’n addas ar gyfer eich prosiect.