Crac Heol Effeithlon a thrwsio cymalau cythryblus
Crac Heol Effeithlon a thrwsio cymalau cythryblus
Siaradwch ag arbenigwr >Mae gennym amrywiaeth o ddulliau ar gyfer atgyweirio craciau ac uniadau ar y ffordd, a fydd yn eich helpu i wella diogelwch eich ffordd ac ymestyn oes yr wyneb.
Yn Nolan Roadmarkings, rydyn ni’n arbenigo mewn deunydd selio craciau, sy’n cael ei osod yn boeth ac yn oer, a fydd yn atal dirywiad ar draws unrhyw rwydwaith. Un o’r pethau rydyn ni wastad yn ei annog yw bod yn rhagweithiol wrth fonitro ansawdd wyneb y ffordd. Os byddwch chi’n gadael wyneb sydd wedi’i ddifrodi am gyfnod rhy hir, gall basio’r pwynt atgyweirio, a fydd, wrth gwrs, yn arwain at ddull hirach, mwy costus.
Gall ein gwasanaethau atgyweirio gael eu rhoi ar waith ar draws unrhyw rwydwaith gyda chyn lleied o darfu â phosib ac wrth gau cyn lleied o ffyrdd â phosib. Byddwn yn gweithio’n gyflym, drwy ddefnyddio ein tîm o arbenigwyr gyda’r dull cywir a fydd yn datrys unrhyw ddiffygion ar yr wyneb, ac yn gwella hirhoedledd eich ffordd.

Mae selio craciau neu uniadau (overband) yn addas i atgyweirio craciau hyd at 5mm o led. Byddwn yn glanhau ac yn sychu’r wyneb sydd wedi’i gracio gydag aer cywasgedig, yna’n lefelu ac yn selio’r deunydd mewn un pas, gan adael lled band gorffenedig o hyd at 40mm.
Mae’r system hon yn addas ar gyfer craciau ac uniadau hyd at 40mm o led Yn debyg i selio craciau neu uniadau (overband), byddwn yn glanhau ac yn sychu’r wyneb sydd wedi’i gracio gydag aer cywasgedig. Yna bydd yn cael ei daenu naill ai fel dwy broses: llewni’n gyntaf, yna selio (overband), neu fel proses llenwi a selio gyda’i gilydd. Mae’r broses hon yn gyflym ac yn effeithlon, gyda’r agregau’n cymryd llai na 30 munud i sychu.
Yn addas ar gyfer craciau ac uniadau sy’n fwy na 40mm yn gyffredinol. Mae angen plaenio’r ddau fath o gilfach lle mae difrod wedi digwydd, yna llenwi’r cyfwyneb pantiog gyda lefel y swbstrad amgylchynol a’i drin gydag agreg PSV uchel.
Proses 3 Cam
Siaradwch ag arbenigwr
Siaradwch ag un o’n tîm heddiw i ddarganfod pa wasanaethau a chynhyrchion sy’n addas ar gyfer eich prosiect.