Arbenigedd Lleol, Safon Ryngwladol
Arbenigedd lleol ac ansawdd gyda chymorth adnoddau cenedlaethol a rhyngwladol
Cafodd Nolan Roadmarking ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, ac mae bellach yn rhan o’r WJ Group. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a busnesau ledled Cymru, rydyn ni’n enwog am ddarparu gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid drwy fabwysiadu dull ymarferol, di-drafferth. Un o’n gwerthoedd craidd yw ‘cyflawni’. A dyma’n union beth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n cymryd yr amser i ddeall eich prosiect a byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i’ch cynghori ar y gwasanaeth a’r ateb cywir a fydd yn eich galluogi i gyflawni’r gwaith.
Rydyn ni’n cefnogi’r diwydiant priffyrdd gydag amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys marciau ffordd, atgyweirio craciau ac uniadau, gosod wyneb ffrithiant uchel, ailweadu a gosod stydiau. Ar gyfer marchnadoedd oddi ar y priffyrdd, rydyn ni’n darparu marciau effeithiol i sefydliadau mewn meysydd parcio ac yn gweithio o fewn y sector addysg i ddarparu marciau ar gyrtiau chwaraeon a meysydd chwarae.
Cyflawni
Mae cyflawni wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydyn ni’n gwneud ymrwymiad i bob un o’n cwsmeriaid; i gadw at ein gair o ran yr hyn a wnawn, pan fyddwn yn dweud ein bod ni’n mynd i’w gyflawni. Mae’n fater o weithio i ragori ar ddisgwyliadau bob amser a chynnig gwasanaeth sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a thryloywder.
Diogelwch
Mae diogelwch yn hollbwysig. Mae’n hawl sydd gennym ni i gyd. Drwy ein hymddygiad a’n prosesau, byddwn wastad yn cynnig gwasanaeth a dulliau sy’n cadw diogelwch yn ganolog – i’n tîm ein hunain, ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Cymuned
Mae cymuned yn hollbwysig i ni yn Nolan Roadmarking. Rydyn ni’n deall ein marchnad a’r unigolion sy’n gweithredu oddi mewn iddi. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig gwerth go iawn, diriaethol i’n holl gymunedau, gan helpu i wella diogelwch, cynhyrchiant a chynaliadwyedd yn y ffordd fwyaf di-drafferth.
Arloesi
Mae arloesi yn ymwneud â ffyrdd newydd o feddwl, datblygu syniadau a bod yn greadigol. Yn Nolan Roadmarking, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r WJ Group ehangach i drafod cynnyrch a gwasanaethau ac yn grymuso ein pobl i ddatblygu ffyrdd newydd o ddatrys heriau cwsmeriaid.