Polisi Preifatrwydd
Gweithredir y wefan hon gan WJ GROUP
Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn hynod o bwysig i ni, felly rydyn ni’n annog pob defnyddiwr i ddarllen y polisi hwn yn ofalus iawn oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am:
pwy ydyn ni;
sut a pham rydyn ni’n casglu, storio, defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol;
eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol; a
sut i gysylltu â ni ac awdurdodau goruchwylio os ydych am wneud cwyn.
Pwy ydyn ni
Mae WJ GROUP (‘ni’) yn casglu, defnyddio ac yn gyfrifol am storio gwybodaeth bersonol benodol amdanoch chi. Pan fyddwn yn gwneud hynny, rydyn ni’n cael ein rheoleiddio o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data sy’n berthnasol ar draws yr Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys y Deyrnas Unedig) ac rydyn ni’n gyfrifol fel ‘rheolwr’ y wybodaeth bersonol honno at ddibenion y cyfreithiau hynny.
Y wybodaeth bersonol a gasglwn ac a ddefnyddiwn
- Gwybodaeth bersonol a roddwch i ni
Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol a roddwch i ni:
Enw
Enw a Chyfeiriad y cwmni
Cyfeiriad e-bost
Teitl swydd
Gwybodaeth lleoliad (h.y.: cyfeiriad IP)
Rhif Ffôn
Mae rhai enghreifftiau o ba bryd rydyn ni’n casglu’r wybodaeth hon yn cynnwys:
Wrth gofrestru i dderbyn cylchlythyrau
Wrth gysylltu â ni am ein cynnyrch a’n gwasanaethau
- b. Gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych am drydydd partïon
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni am berson arall, rydych yn cadarnhau bod y person arall wedi eich penodi i weithredu ar eu rhan ac wedi cytuno eich bod:
yn cydsynio ar eu rhan i brosesu eu data personol;
yn derbyn unrhyw hysbysiadau diogelu data ar eu rhan; ac
yn cydsynio ar eu rhan i drosglwyddo eu data personol dramor.
-
-
- Monitro a chofnodi deunydd cyfathrebu
-
Mae’n bosibl y byddwn yn monitro deunydd cyfathrebu fel e-byst a galwadau ffôn at y dibenion canlynol:
Gweithdrefn Cwynion Hyfforddi
Ymateb i ffurflen gais cyswllt
-
-
- ch. Cwcis a thechnolegau tebyg
-
Ffeil destun fach yw cwci a roddir ar eich cyfrifiadur neu ddyfais electronig pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan. Mae technolegau tebyg yn cynnwys techneg sy’n olrhain pwy sy’n ymweld â’r wefan, tagiau gweithredu, gwrthrychau lleol a rennir (‘cwcis fflach’) a gifs un-picsel. Gellir defnyddio technolegau o’r fath i olrhain gweithredoedd a gweithgareddau defnyddwyr, ac i storio gwybodaeth amdanyn nhw. Rydyn ni’n defnyddio’r cwcis hyn a/neu dechnolegau tebyg ar y wefan hon. Yn ogystal, dylid nodi y gall ein cwcis neu dechnolegau tebyg mewn rhai achosion fod yn eiddo i drydydd partïon a chael eu rheoli ganddyn nhw, a fydd hefyd yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallwn ddefnyddio cwcis i fonitro a/neu gasglu’r wybodaeth ganlynol:
Data traffig ac ymwelwyr
Faint o ddefnyddwyr sy’n ymweld ac yn gweld y safle a’r tudalennau
Lleoliad
Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i adeiladu proffil o’n defnyddwyr. Gall rhywfaint o’r wybodaeth hon fod yn gyfanredol neu’n ystadegol, sy’n golygu na fyddwn yn gallu eich adnabod fel unigolyn.
Y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio ein gwefan, byddwn yn gofyn a ydych yn cydsynio i’n defnydd o gwcis. Os na wnewch chi, ni fydd cwcis yn cael eu defnyddio. Wedi hynny, gallwch optio allan o ddefnyddio cwcis unrhyw bryd neu gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis ac mae’r gwefannau isod yn dweud wrthych sut i dynnu cwcis o’ch porwr. Serch hynny, efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithio o ganlyniad.
I gael mwy o wybodaeth am ein defnydd o gwcis, gweler polisi cwcis ein Gwefan. I gael mwy o wybodaeth am gwcis yn gyffredinol ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.
Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am ein defnyddwyr at y dibenion canlynol:
Ateb ymholiadau ein cwsmeriaid Cynnal ymgyrchoedd marchnata a hysbysu cwsmeriaid am ein cynnyrch a’n gwasanaethau
Monitro a gwella profiad cwsmeriaid ar ein gwefannau
Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda:
Asiantaethau gorfodi’r gyfraith mewn cysylltiad ag unrhyw ymchwiliad i helpu i atal gweithgarwch anghyfreithlon;
Darparwyr Trydydd Parti – gall WJ Group ganiatáu mynediad i Ddata Personol Cwsmer, i’w ddarparwyr gwasanaeth neu gontractwyr; fel darparwyr systemau (TG), darparwyr lletya, ymgynghorwyr a darparwyr neu gontractwyr nwyddau a gwasanaethau eraill. Mae WJ Group yn gweithio gyda darparwyr o’r fath fel y gallant brosesu eich Data Personol ar ei ran. Bydd WJ Group ond yn trosglwyddo Data Personol pan fyddant yn bodloni ein safonau llym ar brosesu data a diogelwch. Mae WJ ond yn rhannu Data Personol er mwyn darparu a gwella ein gwasanaeth i’n cwsmeriaid a gwella profiad cwsmeriaid ar ein platfformau.
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw drydydd parti arall.
Marchnata
Hoffem anfon gwybodaeth atoch am gynnyrch, gwasanaethau, cynigion, cystadlaethau a’n busnes a allai fod o ddiddordeb i chi. Gellid anfon gwybodaeth o’r fath drwy’r post, e-bost, ffôn, neges destun neu alwad awtomataidd.
Y tro cyntaf y byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth gyswllt berthnasol (h.y. wrth brynu, cofrestru i dderbyn cylchlythyr, cymryd rhan mewn cystadleuaeth etc.), byddwn yn gofyn a hoffech i ni anfon negeseuon marchnata atoch. Os byddwch yn optio i mewn i dderbyn deunydd marchnata o’r fath wrthym, gallwch optio allan unrhyw bryd (gweler ‘Pa hawliau sydd gennych?’ isod am fwy o wybodaeth). Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn a sut i optio allan, neu os ydych yn derbyn negeseuon nad ydych eu heisiau, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion a ddarperir isod.
Gwybodaeth bersonol ofynnol
Mae angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
Enw
Cyfeiriad e-bost
Ffôn / Gwybodaeth gyswllt
Mae hyn er mwyn ein galluogi i wneud y canlynol:
Ymateb i unrhyw ymholiad gan gwsmer drwy’r wefan
Ychwanegu at ein rhestr bostio neu gylchlythyr
Byddwn yn eich hysbysu pan fyddwn yn casglu gwybodaeth wrthoch, ac os oes angen i chi ddarparu’r wybodaeth i ni.
Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y cyfnodau canlynol:
Byddwn yn cadw eich Data Personol yn ystod teler ein perthynas fasnachol a 3 blynedd ar ôl dim cyswllt. At ddibenion marchnata, cedwir eich data hyd nes y byddwch yn optio allan o’n deunydd marchnata.
Nid yw’r cyfnodau hyn yn hwy nag sydd angen ym mhob achos.
Rhesymau y gallwn gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Rydyn ni’n dibynnu ar y canlynol fel y sail gyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
(1). cydsyniad.
Goblygiadau ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol
Goblygiadau i chi o’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol yw:
Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o’n cynnwys wedi’i bersonoli ar eich cyfer yn seiliedig ar eich lleoliad. Byddwn yn gofyn i chi am ganiatâd penodol i brosesu rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol, a byddwn ond yn prosesu eich Data Personol yn y ffordd hon os byddwch yn cytuno i ni wneud hynny. Bydd hyn yn wir pan fyddwn yn gofyn i chi os ydych yn dymuno derbyn cylchlythyr, neu wybodaeth am ein cynnyrch neu wasanaethau. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd neu optio allan o ddeunydd cyfathrebu o’r fath.
Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, neu rhag cael ei defnyddio neu gael mynediad ati heb awdurdod. Rydyn ni’n cyfyngu mynediad at eich gwybodaeth bersonol i’r rhai sydd ag angen busnes go iawn i’w gwybod. Bydd y rhai sy’n prosesu eich gwybodaeth yn gwneud hynny mewn ffordd awdurdodedig yn unig ac maen nhw’n destun dyletswydd cyfrinachedd.
Byddwn hefyd yn defnyddio mesurau technolegol a threfniadol i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.
Mae gennym hefyd weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am amheuaeth o dorri diogelwch data lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Yn wir, er y byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i ddiogelu eich data personol, wrth ddefnyddio’r wefan rydych yn cydnabod nad yw’r defnydd o’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel, ac am y rheswm hwn ni allwn warantu diogelwch neu gyfanrwydd unrhyw ddata personol sy’n cael ei drosglwyddo oddi wrthych chi neu i chi drwy’r rhyngrwyd. Os oes gennych unrhyw bryderon penodol am eich gwybodaeth, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod.
Trosglwyddo eich gwybodaeth y tu allan i’r AEE
Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r AEE ar unrhyw adeg.
Plant a dilysrwydd caniatâd
Pan gawn ganiatâd gan unrhyw ddefnyddiwr, byddwn yn cymryd camau rhesymol i ganfod a yw’r defnyddiwr dros 13 oed ac a yw’r plentyn wedi’i hysbysu’n ddigonol i roi caniatâd dilys. Os nad yw’r defnyddiwr, bydd angen caniatâd rhiant i roi caniatâd ar gyfer prosesu unrhyw wybodaeth bersonol.
Pa hawliau sydd gennych chi?
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mae gennych nifer o hawliau pwysig yn rhad ac am ddim. I grynhoi, mae’r rhain yn cynnwys hawliau i:
brosesu gwybodaeth yn deg a thryloywder o ran sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol
mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac at wybodaeth atodol benodol y mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn eisoes wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag ef
gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi
gofyn am ddileu gwybodaeth bersonol amdanoch chi mewn rhai sefyllfaoedd
derbyn y wybodaeth bersonol amdanoch rydych wedi’i rhoi i ni, mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac sy’n ddarllenadwy gan beiriant ac mae gennych yr hawl i drosglwyddo’r data hynny i drydydd parti mewn rhai sefyllfaoedd
gwrthwynebu ar unrhyw adeg i brosesu gwybodaeth bersonol amdanoch ar gyfer marchnata uniongyrchol
gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd sy’n arwain at effeithiau cyfreithiol sy’n ymwneud â chi neu sy’n effeithio’n sylweddol arnoch yn yr un modd
gwrthwynebu mewn rhai sefyllfaoedd eraill i ni barhau i brosesu eich gwybodaeth bersonol
fel arall cyfyngu ar ein prosesu o’ch gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau
hawlio digollediad am iawndal a achosir oherwydd ein bod wedi torri unrhyw gyfreithiau diogelu data
I gael mwy o wybodaeth am bob un o’r hawliau hynny, gan gynnwys yr amgylchiadau y maent yn berthnasol iddynt, gweler y Canllawiau gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (ICO) ar hawliau unigolion o dan y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (http://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulationgdpr/individual-rights/)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn:
e-bostiwch, ffoniwch neu ysgrifennwch atom
gadewch i ni gael digon o wybodaeth i’ch adnabod
gadewch i ni gael prawf o bwy ydych chi (copi o’ch trwydded yrru, pasbort neu gerdyn credyd/bil cyfleustodau diweddar)
rhowch wybod i ni pa wybodaeth y mae eich cais yn ymwneud â hi
O bryd i’w gilydd efallai y bydd gennym hefyd ddulliau eraill i ddad-danysgrifio (optio allan) o unrhyw ddeunydd marchnata uniongyrchol gan gynnwys, er enghraifft, botymau neu ddolenni gwe dad-danysgrifio. Os cynigir y rhain, nodwch y gall fod peth amser ar ôl dewis dad-danysgrifio pan fydd yn bosib y bydd deunydd marchnata yn dal i gael ei dderbyn wrth i’ch cais gael ei brosesu.
Sut i gwyno
Gobeithiwn y gallwn ddatrys unrhyw ymholiad neu bryder a godwch am ein defnydd o’ch gwybodaeth.
Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data hefyd yn rhoi’r hawl i chi gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio, yn enwedig yn nhalaith yr Undeb Ewropeaidd (neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd) lle rydych yn gweithio, yn byw fel arfer neu lle digwyddodd unrhyw achos honedig o dorri cyfreithiau diogelu data. Yr awdurdod goruchwylio yn y DU yw’r Comisiynydd Gwybodaeth, a gellir cysylltu ag ef yn https://ico.org.uk/concerns/ neu ffoniwch: 0303 123 1113.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd
Cyhoeddwyd y polisi preifatrwydd hwn ar 7fed Mai 2021 a chafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 7fed Mai 2021.
Efallai y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Dylech wirio’r polisi hwn o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r fersiwn ddiweddaraf a fydd yn berthnasol bob tro y byddwch yn defnyddio’r wefan hon. Byddwn hefyd yn ceisio rhoi gwybod i ddefnyddwyr o unrhyw newidiadau drwy:
Roi hysbysiad ar bennyn y wefan.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, cysylltwch â ni drwy:
e-bost: info@wj.uk
post: WJ Group Infrastructure Limited, 7 Brock Way, Knutton, Newcastle-under-Lyme, Staffs ST5 6AZ 7/7
ffôn: 01782 381780
Efallai y byddwn yn recordio galwadau at ddibenion ansawdd a hyfforddiant.